Lleoliad:
Tŷ Hywel
Dyddiad: Dydd Mawrth, 7 Chwefror 2023
Amser:
09.00 -
09.21
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Pwyllgor: |
Elin Jones AS, Llywydd (Cadeirydd) Lesley Griffiths AS Darren Millar AS Siân Gwenllian AS |
Staff y Pwyllgor: |
Graeme Francis (Clerc) Yan Thomas (Dirprwy Glerc) |
Eraill yn bresennol |
Manon Antoniazzi, Prif Weithredwr a Chlerc y Senedd Siwan Davies, Cyfarwyddwr Busnes y Senedd Siân Wilkins, Pennaeth Gwasanaeth y Siambr a Phwyllgorau Julian Luke, Pennaeth Pwyllgorau Polisi a Deddfwriaeth, Pennaeth Pwyllgorau Polisi a Deddfwriaeth Helen Carey, Llywodraeth Cymru |
1 Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon
Croesawodd y Llywydd yr Aelodau i’r cyfarfod. Cafwyd ymddiheuriadau gan Jane Dodds a David Rees.
2 Cofnodion y cyfarfod blaenorol
Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod blaenorol i’w cyhoeddi
3 Trefn Busnes
3.1 Busnes yr wythnos hon
Dydd Mawrth
Cadarnhaodd y Trefyndd mai hi fydd yn ateb Cwestiynau’r Prif Weinidog ar ran y Prif Weinidog yr wythnos hon.
Rhoddodd y Llywydd wybod i’r Rheolwyr Busnes am ei bwriad i gydymdeimlo ar ran y Senedd ar ddechrau Cyfarfod Llawn dydd Mawrth â Carolyn Thomas yn dilyn marwolaeth ei mab. Dywedodd y Llywydd wrth y Rheolwyr Busnes hefyd y bydd criw camera o ABC Awstralia yn ffilmio yn yr oriel gyhoeddus ar ddechrau'r cyfarfod ddydd Mawrth.
Dydd Mercher
3.2 Amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf
Tynnodd y Trefnydd sylw'r Rheolwyr Busnes at y newidiadau a ganlyn:
Dydd Mawrth14 Chwefror 2023
· Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd: Yr Adolygiad Ffyrdd a'r Cynllun Cyflenwi Trafnidiaeth Cenedlaethol (45 munud)
·
Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar
y Bil Tai Cymdeithasol (Rheoleiddio) –
wedi'i ohirio tan 28
Chwefror
Dydd Mercher 28 Chwefror 2023
·
Rheoliadau Ardrethu Annomestig
(Lluosydd) (Cymru) 2023 (15 5 munud)
· Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Tai Cymdeithasol (Rheoleiddio) (15 munud) wedi'i ohirio o 14 Chwefror
·
Dadl: Pedwerydd Adroddiad
Blynyddol Llywydd Tribiwnlysoedd Cymru - Ebrill 2021 tan
Ragfyr 2022 (30 munud) wedi'i ohirio tan 21 Mawrth
O ganlyniad i ohirio'r ddadl ar yr Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Tai Cymdeithasol (Rheoleiddio), cytunodd y Pwyllgor Busnes i ymestyn y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno adroddiad ar gyfer y pwyllgorau i 27 Chwefror 2023. Cytunodd y Pwyllgor hefyd mewn egwyddor i gyfeirio'r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol pellach (Rhif 5) a ragwelir ar yr un Bil at y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai a'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad gyda'r un dyddiad cau ar gyfer cyflwyno adroddiad.
3.3 Amserlen busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf
Cytunodd y Pwyllgor Busnes i wneud yr ychwanegiadau a ganlyn:
Dydd Mercher 8 Mawrth 2023 –
4 Deddfwriaeth
4.1 Gohebiaeth gan Gadeirydd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ynghylch amserlen Bil Caffael y Gwasanaeth Iechyd (Cymru)
Cytunodd y Pwyllgor Busnes ar yr amserlen arfaethedig ar gyfer gwaith craffu ar Fil Iechyd y Gwasanaeth Iechyd (Cymru) Wrth wneud hynny, nododd y Pwyllgor bryderon y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ynghylch y cyfnod byrrach ar gyfer craffu Cyfnod 1 a'r ffaith y bydd y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno Cyfnod 2 yn disgyn yn ystod toriad hanner tymor. Nododd y Pwyllgor Busnes y byddai hyn yn golygu bod angen dyddiad cau cynharach ar gyfer cyflwyno gwelliannau yng Nghyfnod 2.
4.2 Gohebiaeth gan Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r cyfansoddiad ynghylch y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Technoleg Enetig (Bridio Manwl)
Nododd Pwyllgor Busnes yr argymhelliad perthnasol a wnaed gan y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r cyfansoddiad fel rhan o'i adroddiad ar Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol y Bil Technoleg Enetig (Bridio Manwl), sy'n cynnig adolygiad o Reolau Sefydlog y Senedd mewn perthynas ag effaith ymarferol Deddf Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig 2020. Cytunodd y Pwyllgor Busnes i ystyried yr argymhelliad ymhellach fel rhan o waith arfaethedig ar ddiwygiadau gweithdrefnol ar ôl-Brexit.
5 Adolygiad o bleidleisio drwy ddirprwy
5.1 Adborth o ymgynghoriad ag Aelodau
Nododd y Pwyllgor Busnes yr ymatebion i'w ymgynghoriad ar bleidleisio drwy ddirprwy gyda'r Aelodau presennol a chyn-Aelodau a chytunodd i ystyried papur yn adolygu treialu pleidleisio drwy ddirprwy ar gyfer absenoldeb rhieni yn y cyfarfod canlynol, cyn ystyried estyniadau posibl i ddarpariaethau wedi hynny.
6 Unrhyw Fater Arall
Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol
Yn dilyn diweddariad llafar gan y Trefnydd, cytunodd y Pwyllgor Busnes i:
Trafododd y Pwyllgor Busnes y gwaith paratoadol y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud ar oblygiadau Bil Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Dirymu a Diwygio) ar gyfer y Llywodraeth a'r Senedd.